Text Box: Jane Hutt AC
 Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
 Llywodraeth Cymru

 

13 Hydref 2015

Annwyl Jane

Bil Cymru drafft

Rwy’n ysgrifennu atoch ynghylch Bil Cymru drafft, y deallaf y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yr wythnos nesaf. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn trafod y Bil drafft ar ôl y toriad mis Hydref.

Cyn cyhoeddi’r Bil drafft a chyn i’r Pwyllgor ei drafod, byddai’n ddefnyddiol cael eich barn ar p’un a fydd y Bil drafft yn galluogi deddfwriaeth fframwaith ariannol i gael ei chyflwyno, a fydd yn cwmpasu atebolrwydd cyllidol a threfniadau archwilio (fel y cynhwysir ar hyn o bryd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006), ac fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor yn ei adroddiad rhan 2 ar Arferion gorau o ran y gyllideb.      

Hefyd, byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddarparu gwybodaeth ynghylch, yn eich barn chi, a fydd y Bil drafft yn arwain at:

·         unrhyw gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r pwerau newydd yn y Bil, a sut y caiff unrhyw gostau ychwanegol eu hariannu;

·         unrhyw effaith ychwanegol ar gyllideb Llywodraeth Cymru neu’i threfniadau archwilio.

Fel y gwyddoch, mae’r cyfle a gaiff y Cynulliad i graffu ar y Bil drafft yn gyfyngedig, felly byddem yn ddiolchgar pe bai modd i chi anfon ymateb i’r llythyr hwn erbyn dydd Gwener 30 Hydref.

Rwy’n anfon copi o’r llythyr hwn at Brif Weinidog Cymru, fel yr arweinydd cyffredinol sy’n gyfrifol am Fil Cymru drafft yn Llywodraeth Cymru.

Yn gywir

Jocelyn Davies AC

Cadeirydd